Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Menter a Busnes

Dyfodol Masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau

Tystiolaeth o Llywodraeth Cymru – WBF 95

TYSTIOLAETH YSGRIFENEDIG I BWYLLGOR MENTER A BUSNES CYNULLIAD CENEDLAETHOL CYMRU AM DDYFODOL MASNACHFRAINT RHEILFFYRDD TEITHWYR CYMRU A’R GORORAU

 

Cyflwyniad

 

1.    Mae’r rheilffordd yn cynnig dull cysylltedd pwysig i wasanaethu anghenion busnesau, pobl a chymunedau ac mae’n cludo teithwyr a nwyddau.

 

2.    Mae ar Lywodraeth Cymru eisiau system reilffordd fodern, hygyrch a fforddiadwy sy’n gwasanaethu pobl Cymru. Nid yw’r cyfrifoldeb dros wasanaethau rheilffordd a seilwaith y rheilffordd wedi’i ddatganoli ond mae Llywodraeth Cymru wedi ymgymryd â rôl gynyddol yn y maes hwn.

 

Masnachfraint Cymru a’r Gororau ar hyn o bryd

 

3.    Dyfarnwyd masnachfraint Cymru a’r Gororau i Drenau Arriva Cymru yn 2003 gan yr Awdurdod Rheilffyrdd Strategol am gyfnod o 15 mlynedd. Mae’r fasnachfraint yn nodi’r gwasanaethau a’r safonau gwasanaethau y mae disgwyl i Drenau Arriva Cymru eu cyflawni.

 

4.    Telir yn rhannol am weithredu’r fasnachfraint gan incwm y mae’r cwmni’n ei gynhyrchu ac yn rhannol gan gymhorthdal sylweddol gan y llywodraeth. Yn 2012/13, tua £290m oedd cyfanswm yr incwm ar gyfer y fasnachfraint, y mae dros ei hanner yn dod o gymhorthdal Llywodraeth Cymru.

 

5.    Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyfrifol am reoli masnachfraint Trenau Arriva Cymru, drwy Gytundeb Ar y Cyd ag Adran Drafnidiaeth y DU, ers 2006.

 

6.    Trosglwyddodd Llywodraeth y DU yr arian ar gyfer masnachfraint Trenau Arriva Cymru i Lywodraeth Cymru yn 2006/7 ar lefel a oedd yn ddigon i dalu am waelodlin y fasnachfraint. Nid oedd hyn yn darparu ar gyfer y cynnydd mewn galw a gafwyd ar rwydwaith Cymru, lle mae’r Llywodraeth o ganlyniad wedi rhoi arian er mwyn pontio’r bwlch rhwng y capasiti a roddwyd inni yn y fasnachfraint a’r capasiti sydd ei angen ar gwsmeriaid.

 

7.    Bu ehangu arwyddocaol o ran capasiti’r gwasanaeth a niferoedd y teithwyr yn ardal masnachfraint Cymru a’r Gororau ers 2003. Rhwng 2003-04 a 2012-13 cynyddodd y ‘cilometrau trên’ ar gyfer gwasanaethau a ddarparwyd gan Drenau Arriva Cymru 31 y cant, gan gynnwys gwasanaethau ar y llinellau wedi’u hailagor a noddwyd gan Lywodraeth Cymru; er enghraifft i Barcffordd Glynebwy, a rheilffordd Bro Morgannwg. Dros yr un cyfnod cynyddodd nifer ‘teithiau’r teithwyr’ ar y gwasanaethau hyn 61 y cant. Ar ddangosyddion perfformiad allweddol, mae’r perfformiad wedi cynyddu dros yr un cyfnod. Yn gyntaf am fodlonrwydd cwsmeriaid, o ran y teithwyr yr oedd eu barn gyffredinol am eu taith yn ‘fodlon neu’n dda’; cododd y mesur hwn o 79 y cant o’r teithwyr yng ngwanwyn 2004 i 88 y cant yng ngwanwyn 2013. Ac yn ail, ‘mesur perfformiad cyhoeddus’ prydlondeb (y trên yn cyrraedd cyn pen 5 munud i’r amser ar yr amserlen) a gododd o 81.8 y cant yn 2003-04 i gyrraedd 95.4 y cant yn ystod chwarter cyntaf 2013-14. 

 

Dyfodol masnachfraint Cymru a’r Gororau  

 

8.    Mae masnachfraint bresennol Cymru a’r Gororau’n dod i ben ym mis Hydref 2018. O dan y ddeddfwriaeth bresennol, yr Adran Drafnidiaeth fydd yr awdurdod breinio o hyd ar gyfer masnachfraint Cymru a’r Gororau a hi sy’n gyfrifol am osod y fasnachfraint nesaf. Cydnabyddir diddordeb Gweinidogion Cymru yn y fasnachfraint yn y ddeddfwriaeth ac mae’r Ddeddf Rheilffyrdd (2005) yn darparu i’r perwyl hwnnw.

 

9.    Mae’r fasnachfraint newydd yn cynnig cyfle i lunio manyleb sy’n adlewyrchu’r patrwm defnydd sydd wedi datblygu a’r sail i wella cystadleurwydd economaidd Cymru.

 

10.Fel y nodwyd yn ein tystiolaeth i Gomisiwn Silk, mae trafodaethau ynghylch posibilrwydd datganoli grymoedd pellach o ran y rheilffyrdd a’r setliad ariannol priodol wedi dechrau â’r Adran Drafnidiaeth. I gyd-fynd â hynny rwyf wedi cyfarwyddo fy swyddogion i archwilio pob opsiwn ar gyfer model y fasnachfraint y gellid ei fabwysiadu.

 

11.Beth bynnag fydd maint ein rôl wrth osod masnachfraint nesaf Cymru a’r Gororau, bydd Llywodraeth Cymru’n nodi ei blaenoriaethau ar gyfer y fasnachfraint nesaf gan gynnwys disgwyliadau gwasanaethau a’r safonau ansawdd a model y fasnachfraint rydyn ni eisiau iddi gael ei chyflawni. Fodd bynnag, mae’n bwysig alinio hyn gyda setliad cyllid priodol gan Lywodraeth y DU.

 

12.Mae ymchwiliad y Pwyllgor yn dod ar adeg allweddol ac rwy’n awyddus i sicrhau bod y gwersi a dynnwch o’r dystiolaeth a gasglwch yn llywio ein dull gweithredu yn y dyfodol.

 

 

 

 

 

Edwina Hart MBE CStJ AC

Y Gweinidog dros yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth